Mae gan eich cymeriad rai nodweddion sy’n deillio o’ch achau orcaidd.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Cryfder yn cynyddu gan 2 c mae eich sgôr Cyfansoddiad yn cynyddu gan 1.
Oed. Mae Plant yr Ogof yn aeddfedu ychydig yn gyflymach na bodau dynol, gan gyrraedd oedolaeth tua 14 oed. Maent yn heneiddio’n amlwg yn gyflymach ac anaml y byddant yn byw yn hirach na 75 mlynedd.
Maint. Mae hanner orcs ychydig yn talach ac yn fwy swmpus na bodau dynol, ac maent yn amrywio o 5 i ymhell dros 6 troedfedd o daldra. Mae eich maint yn Ganolig.
Cyflymder. 30 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.
Tywyllweld. Achos o’ch achau orcaidd, mae gennych olwg well mewn amodau tywyll a golau gwan. Fe welwch mewn golau gwan o fewn 60 troedfedd i chi fel pe bai’n olau llachar, ac mewn tywyllwch fel pe bai’n olau gwan. Ni allwch ganfod lliw mewn tywyllwch, dim ond arlliwiau o lwyd.
Bygythiol. Rydych chi’n ennill hyfedredd yn y sgil Brawychu.
Dygnwch Di-baid. Pan fyddwch chi’n gostwng i 0 pwynt heini ond heb eich lladd yn llwyr, gallwch chi ollwng i 1 pwynt heini yn lle hynny. Ni allwch ddefnyddio’r nodwedd hon eto nes i chi orffen saib hir.
Ymosodiadau ffyrnig. Pan fyddwch chi’n taro’n critigol gydag ymosodiad arf sgarmes, gallwch chi rolio un o ddis difrod yr arf un tro ychwanegol a’i ychwanegu at ddifrod ychwanegol yr ergyd critigol.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen, ac ysgrifennu y Cyfiaith ac Orcaidd. Mae Orcaidd yn iaith llym, gratio gyda chytseiniaid caled. Nid oes ganddo ei sgript ei hun ond mae wedi’i ysgrifennu yn sgript Coraidd.