Mae eich treftadaeth draigaidd yn amlygu ei hun mewn amrywiaeth o nodweddion rydych chi’n eu rhannu ag Plant y Tân eraill.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Cryfder yn cynyddu gan 2, ac mae eich sgôr Presynoldeb yn cynyddu gan 1.
Oed. Mae Plant y Tân yn tyfu’n gyflym. Maent yn cerdded oriau ar ôl deor, yn cyrraedd maint a datblygiad plentyn dynol 10 oed erbyn 3 oed, ac yn cyrraedd oedolaeth erbyn 15. Maent yn byw i fod tua 80 oed.
Maint. Mae Plant y Tân yn dalach ac yn drymach na bodau dynol, yn sefyll ymhell dros 6 troedfedd o daldra a bron i 250 pwys ar gyfartaledd. Mae eich maint yn Ganolig.
Cyflymder. 30 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.
Tabl- Hil y Ddraig
Draig | Difrod | Arf Anadl |
---|---|---|
Du | Asid | 5 x 30 tr. line (achub Chw.) |
Glass | Mellt | 5 x 30 tr. line (achub Chw.) |
Pres | Tân | 5 x 30 tr. line (achub Chw.) |
Efydd | Mellt | 5 x 30 tr. line (achub Chw.) |
Copr | Asid | 5 x 30 tr. line (achub Chw.) |
Aur | Tân | 15 ft. cone (achub Chw.) |
Gwyrdd | Gwenwyn | 15 ft. cone (achub Cyf.) |
Coch | Tân | 15 ft. cone (achub Chw.) |
Arian | Oer | 15 ft. cone (achub Cyf.) |
Gwyn | Oer | 15 ft. cone (achub Cyf.) |
Hil y Ddraig. Mae gennych chi achau draigaidd. Dewiswch un math o ddraig o’r tabl Hil y Ddraig. Mae eich arf anadl a’ch gwrthiant i ddifrod yn cael eu pennu gan y math o ddraig, fel y dangosir yn y tabl.
Arf Anadl. Gallwch ddefnyddio’ch gweithred i anadlu allan egni dinistriol. Mae eich llinach ddraig yn pennu maint, siâp, a math difrod yr allanadlu.
Pan fyddwch chi’n defnyddio’ch arf anadl, rhaid i bob creadur yn ardal yr allanadlu wneud cais achub, y mae’r math ohono’n cael ei bennu gan eich hynafiaeth. Mae’r DC ar gyfer y tafliad arbed hwn yn hafal i 8 + eich addasydd Cyfansoddiad + eich bonws hyfedredd. Mae creadur yn cymryd 2d6 o ddifrod ar cais a fethwyd, a hanner cymaint o ddifrod ar arbediad llwyddiannus. Mae’r difrod yn cynyddu i 3d6 ar 6ed lefel, 4d6 ar lefel 11eg, a 5d6 ar lefel 16eg.
Ar ôl i chi ddefnyddio’ch arf anadl, ni allwch ei ddefnyddio eto nes i chi gwblhau saib byr neu hir.
Gwrthiant i Ddifrod. Mae gennych gwrthiant i’r math o ddifrod sy’n gysylltiedig â’ch llinach draigaidd.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen, ac ysgrifennu y Cyfiaith a Draigiaith. Credir bod Draigiaith yn un o’r ieithoedd hynaf ac fe’i defnyddir yn aml wrth astudio hud. Mae’r iaith yn swnio’n llym i’r rhan fwyaf o greaduriaid eraill ac yn cynnwys nifer o gytseiniaid caled a sibilyddion.