Your dwarf character has an assortment of inborn abilities, part and parcel of dwarven nature.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Cyfansoddiad yn cynyddu gan 2.
Oed. Mae Plant y Mynydd yn aeddfedu ar yr un gyfradd â bodau dynol, ond maen nhw’n cael eu hystyried yn ifanc nes eu bod yn cyrraedd 50 oed. Ar gyfartaledd, maen nhw’n byw tua 350 o flynyddoedd.
Maint. Mae Plentyn y Mynydd yn sefyll rhwng 4 a 5 troedfedd o daldra a thua 150 pwys ar gyfartaledd. Mae eich maint yn Ganolig.
Cyflymder. 25 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol. Nid yw eich cyflymdra yn cael ei effeithio gan wisgo arfwisg trwm.
Tywyllweld. Yn gyfarwydd â bywyd o dan y ddaear, mae gennych olwg well mewn amodau tywyll a golau gwan. Fe welwch mewn golau gwan o fewn 60 troedfedd i chi fel pe bai’n olau llachar, ac mewn tywyllwch fel pe bai’n olau gwan. Ni allwch ganfod lliw mewn tywyllwch, dim ond arlliwiau o lwyd.
Dwarven Resilience. Mae gennych fantais ar cais achub yn erbyn gwenwyn, ac mae gennych wrthwynebiad yn erbyn difrod gwenwyn.
Hyfforddiant Brwydro. Mae gennych hyfedredd gyda’r bwyell rhyfel, y fwyell law, y morthwyl ysgafn, a’r morthwyl rhyfel.
Hyfedredd Offer. Byddwch yn dod yn hyfedr gydag offer y crefftwr o’ch dewis: offer gof, offer bragwr, neu offer saer maen.
Carregwybod. Pryd bynnag y byddwch yn gwneud gwiriad Deallusrwydd (Hanes) sy’n ymwneud â tharddiad gwaith carreg, fe’ch ystyrir yn hyddysg yn y sgil Hanes ac ychwanegu dwbl eich bonws hyfedredd at y siec, yn lle eich bonws hyfedredd arferol.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen, ac ysgrifennu y Cyfiaith ac iaith Plant y Mynydd. Mae iaith Plant y Mynydd yn llawn cytseiniaid caled a seiniau garw, ac mae’r nodweddion hynny’n gorlifo i ba bynnag iaith arall y gallai Plentyn y Mynydd ei siarad.
Fel corrach bryn, mae gennych synhwyrau brwd, greddf dwfn, a gwydnwch rhyfeddol.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Doethder yn cynyddu gan 1.
Caledwch. Mae uchafswm eich pwyntiau heini yn cynyddu gan 1, ac mae’n cynyddu gan 1 bob tro y byddwch chi’n ennill lefel.