Mae’n anodd gwneud cyffredinoliadau am fodau dynol, ond mae gan eich cymeriad dynol y nodweddion hyn.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae pob sgôr gallu yn cynyddu gan 1.
Oed. Mae Plentyn y Mai yn cyrraedd oedolaeth yn eu harddegau hwyr ac yn byw llai na chanrif.
Maint. Mae Plentyn y Mai yn amrywio’n fawr o ran uchder ac adeiladwaith, o prin 5 troedfedd i ymhell dros 6 troedfedd o daldra. Waeth beth fo’ch safle yn yr ystod honno, mae eich maint yn Ganolig.
Cyflymder. 30 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen ac ysgrifennu y Cyfiaith ac un iaith ychwanegol o’ch dewis. Mae Plentyn y Mai fel arfer yn dysgu ieithoedd pobl eraill y maent yn ymwneud â nhw, gan gynnwys tafodieithoedd aneglur. Maent yn hoff o gymysgu eu lleferydd â geiriau a fenthycwyd o dafodau eraill: melltithion Orcaidd, ymadroddion cerddorol Elffaidd, ymadroddion milwrol Plant y Mynydd, ac ati.