Geiriadur

Plentyn y Bryn.md

Plentyn y Bryn (Halfling)

Nodweddion Plentyn y Bryn

Mae gan eich cymeriad rai nodweddion sy’n gyffredin â phob Plant y Bryn arall.

Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Chwimder yn cynyddy gan 2.

Oed. Mae Plentyn y Bryn yn cyrraedd oedolaeth yn 20 oed ac yn gyffredinol yn byw i ganol ei ail ganrif.

Maint. Mae Plant y Bryns tua 3 troedfedd o daldra ar gyfartaledd ac yn pwyso tua 40 pwys. Mae eich maint yn fach.

Cyflymder. 25 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.

Lwcus. Pan fyddwch chi’n rholio 1 ar y d20 ar gyfer rholyn ymosodiad, cais gallu, neu cais arbed, gallwch chi ail-rholio’r dis a rhaid i chi ddefnyddio’r rholyn newydd.

Dewrder. Mae gennych fantais ar cais achub yn erbyn cael eich dychryn.

Amysgafnder. Gallwch symud trwy ofod unrhyw greadur sydd o faint mwy na’ch un chi.

Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen, ac ysgrifennu y Cyfiaith ac iaith Plant y Bryn. Nid yw iaith Plant y Bryn yn gyfrinach, ond mae’n gas i’w rhannu ag eraill. Ychydig iawn y maent yn ei ysgrifennu, felly nid oes ganddynt gorff cyfoethog o lenyddiaeth. Mae eu traddodiad llafar, fodd bynnag, yn gryf iawn. Mae bron pob Plentyn y Bryn yn siarad y Cyfiaith i ymddiddan â’r bobl y maent yn trigo yn eu tiroedd neu y maent yn teithio trwyddynt.

Ysgafndroed (Lightfoot)

Fel Plentyn y Bryn Ysgafndroed, gallwch yn hawdd guddio rhag sylwi, hyd yn oed ddefnyddio pobl eraill fel gorchudd. Rydych chi’n dueddol o fod yn gariadus a chyd-dynnu’n dda ag eraill.

Mae Ysgafndroed yn fwy tueddol o ddioddef chwant crwydro na Plant y Bryn eraill, ac yn aml maent yn byw ochr yn ochr â hiliau eraill neu’n cymryd bywyd crwydrol.

Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Presynoldeb yn cynyddu gan 1.

Yn naturiol llechwraidd. Gallwch geisio cuddio hyd yn oed pan fyddwch chi’n cael eich cuddio gan greadur sydd o leiaf un maint yn fwy na chi.