Mae gan eich cymeriad rai rhinweddau sy’n gyffredin â elffiaid a rhai sy’n unigryw i Blant Annwn.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Presynoldeb yn cynyddu gan 2, ac mae dau sgôr gallu arall o’ch dewis yn cynyddu 1.
Oed. Mae hanner gorachod yn aeddfedu ar yr un gyfradd ag y mae bodau dynol ac yn cyrraedd oedolaeth tua 20 oed. Maent yn byw’n llawer hirach na bodau dynol, fodd bynnag, yn aml yn fwy na 180 mlynedd.
Maint. Mae Plentyn Annwn tua’r un maint â bodau dynol, yn amrywio o 5 i 6 troedfedd o daldra. Mae eich maint yn Ganolig.
Cyflymder. 30 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.
Tywyllweld. Diolch i’ch llinach elffaidd, mae gennych olwg well mewn amodau tywyll a golau gwan. Fe welwch mewn golau gwan o fewn 60 troedfedd i chi fel pe bai’n olau llachar, ac mewn tywyllwch fel pe bai’n olau gwan. Ni allwch ganfod lliw mewn tywyllwch, dim ond arlliwiau o lwyd.
Hiliogaeth Annwn. Mae gennych fantais ar caisiadau achub yn erbyn cael eich swyno, ac ni all hud eich rhoi i gysgu.
Amlochredd Sgiliau. Rydych chi’n ennill hyfedredd mewn dwy sgil o’ch dewis.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen ac ysgrifennu y Cyfiaith, Elffaidd, ac un iaith ychwanegol o’ch dewis.