Mae gan eich cymeriad rai nodweddion sy’n gyffredin â phob gnôm arall.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Deallusrwydd yn cynyddu gan 2.
Oed. Mae gnôms yn aeddfedu ar yr un gyfradd ag y mae bodau dynol, a disgwylir i’r mwyafrif setlo i fywyd oedolyn erbyn tua 40 oed. Gallant fyw rhwng 350 a bron i 500 mlynedd.
Maint. Mae gnôms rhwng 3 a 4 troedfedd o daldra a thua 40 pwys ar gyfartaledd. Mae eich maint yn fach.
Cyflymder. 25 troedfedd yw eich cyflymdra sylfaneol.
Tywyllweld. Yn gyfarwydd â bywyd o dan y ddaear, mae gennych olwg well mewn amodau tywyll a gwan. Fe welwch mewn golau gwan o fewn 60 troedfedd i chi fel pe bai’n olau llachar, ac mewn tywyllwch fel pe bai’n olau gwan. Ni allwch ganfod lliw mewn tywyllwch, dim ond arlliwiau o lwyd.
Cyfrwystra Gnômaidd. Mae gennych fantais ar bob cais achub Deallusrwydd, Doethineb, a Presynoldeb yn erbyn effeithiau hud.
Ieithoedd. Gallwch siarad, darllen, ac ysgrifennu y Cyfiaith a Gnômeg. Mae’r iaith Gnômeg, sy’n defnyddio’r sgript y Mynydd, yn enwog am ei thraethodau technegol a’i chatalogau o wybodaeth am fyd natur.
Fel Gnôm y Craig, mae gennych ddyfeisgarwch naturiol a chaledwch y tu hwnt i gnomau eraill.
Cynydd Sgôr Gallu. Mae eich sgôr Cyfansoddiad yn cynyddu gan 1.
Dysg y Celfyddydd. Pryd bynnag y gwnewch cais Deallusrwydd (Hanes) sy’n ymwneud ag eitemau hud, gwrthrychau alcemegol, neu ddyfeisiau technolegol, gallwch ychwanegu dwywaith eich bonws hyfedredd, yn lle unrhyw fonws hyfedredd rydych chi’n ei gymhwyso fel arfer.
Tincio. Mae gennych hyfedredd gydag offer crefftwr (offer tincer). Gan ddefnyddio’r offer hynny, gallwch dreulio 1 awr a 10 gp o ddeunyddiau i adeiladu dyfais clocwaith Pitw (AC 5, 1 hp). Mae’r ddyfais yn peidio â gweithredu ar ôl 24 awr (oni bai eich bod yn treulio 1 awr yn ei thrwsio i gadw’r ddyfais i weithio), neu pan fyddwch chi’n defnyddio’ch acsiwn i’w datgymalu; bryd hynny, gallwch adennill y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w greu. Gallwch gael hyd at dri dyfais o’r fath yn weithredol ar y tro.
Pan fyddwch chi’n creu dyfais, dewiswch un o’r opsiynau canlynol:
Tegan Clocwaith. Mae’r tegan hwn yn anifail clocwaith, anghenfil, neu berson, fel broga, llygoden, aderyn, draig, neu filwr. Pan gaiff ei osod ar y llawr, mae’r tegan yn symud 5 troedfedd ar draws y ddaear ar bob un o’ch troadau mewn cyfeiriad ar hap. Mae’n gwneud synau sy’n briodol i’r creadur y mae’n ei gynrychioli.
Cychwynnwr Tân. Mae’r ddyfais yn cynhyrchu fflam fach, y gallwch ei defnyddio i gynnau cannwyll, tortsh, neu dân gwersyll. Mae defnyddio’r ddyfais yn gofyn am eich acsiwn.
Blwch Cerddoriaeth. Pan gaiff ei agor, mae’r blwch cerddoriaeth hwn yn chwarae cân sengl ar uchder cymedrol. Mae’r blwch yn stopio chwarae pan fydd yn cyrraedd diwedd y gân neu pan fydd ar gau.