Gweithdy rhad ac am ddim ar gyfer awduron ffuglen wyddonol (“SciFi”), yn ogystal â chystadleuaeth stori fer ar thema esblygiad iaith. Seán Roberts, Hannah Little a Catriona Silvey sydd wedi trefnu’r prosiect. Am fwy o fanylion, darllenwch ymlaen neu anfonwch e-bost i Seán.
Ydych chi’n ysgrifennu ffuglen wyddonol? Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth? Dewch i gymryd rhan yn ein gweithdy rhad-ac-am-ddim ar thema esblygiad iaith. Fe fyddwn ni’n esbonio’r atebion diweddaraf i rai o’r cwestiynau mwyaf dwys am ddynolryw:
Bydd arbenigwyr esblygiad iaith yn cyflwyno ymchwil arloesol er mwyn roi’r tanwydd sydd angen arnoch chi i greu straeon gafaelgar. Fe fyddwn yn ymdrin â damcaniaethau cyfoes, dulliau arbrofol a’r hyn sydd heb eu darganfod eto. Nid cwrs am sut i greu iaith "conlang" yw hwn, ond gweithdy am sut i ddychmygu’r ffordd mae iaith yn cael ei ffurfio a’i newid gan siaradwyr, amgylchedd a diwylliant.
Mae sawl fideo ar gael yn barod ar y tutalen Adnoddau.
Ein nod ni yw ysbrydoli straeon sy’n deillio o faes esblygiad iaith. Gall hynny gynnwys ymdrin â’r cwestiynau uchod, dychmygu sefyllfaoedd yn y gorffennol neu’r dyfodol, dyfalu sut y byddai iaith wedi esblygu mewn rhywogaeth arall, neu archwylio sgileffeithiau ein dulliau ac arferion ieithyddol.
Bydd y rhestr fer yn cael ei barnu gan Gwyneth Lewis, cyn fardd cenedlaethol Cymru, enillydd goron Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, ac awdur farddoniaeth, llyfrau a ddramâu mewn Cymraeg a Saesneg.
Y wobr gyntaf yw £400, ac fe fydd y stori fuddugol yn cael ei chyhoeddi gan y cylchgrawn llenyddol Y Stamp.
Mae cystadleuaeth ar wahan ar gyfer storïau Saesneg.
Rheolau’r gystadleuaeth